Gwirfoddolwyr Cynllun Ffrindia’
Dyma gynllun newydd cyffrous ar gyfer trigolion Gwynedd. Sefydlwyd Cynllun Ffrindia’ i gefnogi gwirfoddolwyr i gyfeillio gydag unigolion dros 50 oed sydd yn unig, ynysig neu mewn perygl o fod ar ffiniau cymdeithas. Bydd gwirfoddolwyr Cynllun Ffrindia’ yn cyfeillio i leihau'r teimlad o unigrwydd a diffyg hyder. Mae'r cynllun yn gweithio tuag at hybu hunanhyder ac annibyniaeth ymysg y rhai fydd yn elwa o'r cynllun.
Ydych chi rhwng swyddi, yn ddi-waith, wedi ymddeol neu’n chwilio am rhywbeth i lenwi’ch amser rhydd?
Dyma ffordd amhrisiadwy o ennill profiadau newydd a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas. Fel gwirfoddolwr, cewch fynediad at ystod eang o gyrsiau hyfforddiant a chefnogaeth i ddatblygu o fewn eich rôl.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr (18 mlwydd oed neu hŷn) i gyfeillio gydag unigolyn dros 50 yng Ngwynedd. Byddwch yn torri ar eu hunigedd drwy fynd yno am banad, mynd gyda nhw am dro, eu cyflwyno i glybiau cerdded neu heini lleol addas i enwi dim ond ychydig o’r gweithgareddau sy’n bosib eu gwneud.
Felly beth amdani? Beth am wneud gwahaniaeth?
Sut i ymgeisio
-
Cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddoli yn eich ardal chi:
ARFON: Nia Haf, nia@mantellgwynedd.com (01286) 677 711
DWYFOR: Dawn Thomas, dawn@mantellgwynedd.com (01286) 677 711
MEIRIONNYDD: Gwenlli Haf, gwenlli@mantellgwynedd.com (01341) 422 575
Neu ymholiad cyffredinol: ffrindia@mantellgwynedd.com -
Cyfeiriad y Cwmni:
Mantell Gwynedd,
23-25 Y Bont Bridd,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1AB
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: