Cydlynydd Tîm (Noson Allan) 15 awr yr wythnos
Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru yw Noson Allan sy'n helpu dod â pherfformiadau teithiol proffesiynol â llai o berygl ariannol i leoliadau cymunedol. Hyrwydda tua 600 digwyddiad bob blwyddyn ledled Cymru.
Byddwch yn gyfrifol am gefnogi effeithiolrwydd gweithgareddau'r tîm drwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol o safon. Rydym am siarad ag ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y celfyddydau perfformio neu wybodaeth ohonynt yng Nghymru a Phrydain a phrofiad gweinyddol perthnasol. Mae medru Cymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'n buddion yn cynnwys gweithio'n hyblyg, gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol. Gweithiwn drwy'r Gymraeg a'r Saesneg.
Gweithredwn bolisi cyfle cyfartal ar recriwtio a chroesawn yn wresog geisiadau gan bob adran o'r gymuned.
‘Enillwyr Rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus Diverse Cymru 2011'
Sut i ymgeisio
-
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ffoniwch y rhif isod neu ewch i'r linc isod:
-
Ffôn:02920441343
-
Gwefan Gymraeg: