SWYDDOG CYSWLLT BUSNES
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ac mae'n ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau'r Llyfrgell.
LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a sefydlwyd ym 1907 yn un o brif lyfrgelloedd y byd ac mae'n meddu ar gasgliadau digymar o lyfrau, pamffledi, papurau newyddion a cherddoriaeth, llawysgrifau, archifau, mapiau, ffotograffau, darluniau a deunydd sain a delweddau symudol, a'r cyfan yn cael ei gadw mewn adeilad trawiadol sy'n edrych dros dref Aberystwyth a BaeCeredigion. Mae hefyd yn ganolfan byd ar gyfer deunydd ymchwil ar Gymru, pobl Cymru a'r cenhedloedd Celtaidd. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol (hawlfraint) er 1911 mae ganddi hawl i dderbyn copi o bob eitem argraffedig a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae ei chasgliadau yn cynnwys llyfrau hen a phrin, cyhoeddiadau tramor, o Ewrop a Gogledd
America yn bennaf, a deunyddiau electronig cyfoes. Caiff y Llyfrgell ei hariannu drwy gymorth grant o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a chaiff ei disgrifio fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).
Y PROSIECT
Mae Digido ar Gyfer Busnesau (DgB) yn brosiect a redir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (‘y Llyfrgell') i gefnogi cwmniau Cydgyfeiriant, busnesau bychain a chanolig yn bennaf, i gymryd mantais o dechnolegau digido. Bydd y Llyfrgell yn cyflwyno gwybodaeth fusnes wedi ei deilwro i ateb pynciau penodol yn ymwneud a digido ar gyfer gwella busnes. Bwriad y prosiect yw darparu gwybodaeth, gweledigaeth a chyfleoedd i fusnesau Cymreig a leolir yn yr ardaloedd Cydgyfeiriant i'w galluogi i fanteisio ac ail-ddefnyddi'r gronfa fwyaf o etifeddiaeth ddiwylliannol ddwyieithog ddigidol yn ymwneud a Chymru. Caiff busnesau eu hyfforddi yn y defnydd o dechnolegau digidol i annog newidiadau ac i gryfhau eu cystadleurwydd lleol a byd-eang. Bydd y prosiect yn gymorth i gyflwyno Cymru Ddigidol.
Mae gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru safle unigryw yn yr ardal Cydgyfeiriant fel arbenigwr ar ddigido a thechnolegau cysylltiedieg a bydd prosiect DgB yn cynnig yr hyn y mae ar fusnesau eu hangen, yn nhermau mynediad i arbenigedd a chynnwys digidol y Llyfrgell, i'w galluogi i gystadlu i symyd i fyny'r gadwyn werth. Caiff busnesau yn y meysydd canlynol
gynnig cymorth: diwydiannau creadigol gan gynnwys teledu, cerdd, ffilm a chyfryngau newydd, achyddwyr/arbenigwyr hanes teulu proffesiynnol, cyfieithwyr, cynllunwyr, diwydiannau crefft ar gyfer dylunio (crochenwaith, tecstiliau ayyb), arlunwyr, ymchwilwyr a threftadaeth ddiwylliannol. Rhan allweddol o'r prosiect yw cynnig sesiynnau gwybodaeth i rannu'r arbennigedd a fagodd y Llyfrgell dros ddegawd gan adeiladu ar yr enw da sydd ganddi am gynnig gwasanaeth o safon. Mae gweithgareddau'r prosiect yn ychwanegol i waith statudol y Llyfrgell. Mae casgliadau a gwasanaethau'r Llyfrgell yn bodoli er budd pawb a all fanteisio arnynt. Mae busnesau yn gynwysedig yn y grwp defnyddwyr eisoes. Caiff amrywiaeth o wasanaethau gwybodaeth eu datblygu i ddiwallu anghenion grwpiau penodol o ddefnyddwyr.
Y SWYDD
SWYDDOG CYSWLLT BUSNES (PROSIECT DIGIDO I FUSNES)
Dyma fydd dyletswyddau allweddol y Swyddog:
- Cynorthwyo'r Rheolwr Prosiect i gyflawni amcanion y Prosiect a gweithio i gyfarfod â thargedau penodol a osodwyd drwy:
- Adnbabod yr unigolion / grwpiau sydd angen eu denu
- Datblygu a gweithredu strategaeth i ymwneud â'r budd-ddeiliaid.
- Datblygu, yn ystod y cymal cyntaf, syniadau a chynlluniau i ddatblygu proffil y prosiect a nifer y cleientiaid i'w gweithredu dros oes y prosiect.
- Cyflwyno neges y prosiect yn glir a phositif i'r darpar randdeiliaid trwy fynychu ffeiriau busnes, cyflwyniadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, a chynnal peth o'r hyfforddiant sylfaenol.
- Cyflwyno'r gwasanaeth a sicrhau cefnogaeth busnesau bychain a chanolig a dwyn preswad arnynt i ymgymryd â'r gwasanaeth a fydd yn cael ei gynnig.
- Cynnal sesiynau codi ymwybyddaieth o'r hyn mae'r Llyfrgell eisoes wedi'i wneud / neu yn ei ddatblygu.
- Cysylltu a threfnu i gydweithio gyda phrosiectau tebyg a ariennir gan Ewrop drwy Lywodraeth y Cynulliad.
- Dealltwriaeth cyffredinol o'r deddfwriaethau Gwarchod Data a Rhyddid
- Gwybodaeth a hawliau deallusol.
GWYBODAETH, SGILIAU A PHROFIAD ANGHENRHEIDIOL
· Byddai'n dda pe bai gan yr ymgeisydd brofiad helaeth mewn gwerthu, hyrwyddo a/neu marchnata i SMEs (hanfodol)
· Profiad o weithio mewn cyd destun technegol / greadigol yn enwedig yn ardal cydgyfeiriant (dymunol).
· Profiad o drosglwyddo gwybodaeth neu hyrwyddo.
· Yn ogystal a chymhwyser mewn busnes a / neu hyrwyddo a marchnata (dyumunol)
Yn ogystal gofynnir am yr wybodaeth, sgiliau a phrofiad canlynol:
Gwybodaeth am:
· Werthu/marchnata/hyrwyddo (hanfodol)
· SMEs (hanfodol)
· Gyd-destun prosiectau a noddir gan y lywodraeth Cymru/Ewrop (dymunol)
· Technolegau digiol(dymunol)
· Gwaith y Llyfrgell yn y maes (dymunol)
· anghenion y farchnad (dymunol)
· rwydweithiau y gellid manteisio arnynt (dymunol)
Sgiliau:
· cyfathrebu rhagorol yn Gymraeg a Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig (hanfodol)
· sgiliau trosglwyddo gwybodaeth (hanfodol)
· hwyluso (hanfodol)
· hyrwyddo(hanfodol)
· rheoli amser (dymunol)
· blaenoriaethu (dymunol)
· cyflwyno dadl (dymunol)
Profiad:
· marchnata/hyrwyddo (hanfodol)
· trosglwyddo gwybodaeth (hanfodol)
· gweithio mewn cyd destun prosiect (hanfodol)
· gweithio yn y sector gyhoeddus (dymunol)
· gweithio mewn cyd destun technolegol(dymunol)
· SMEs (dymunol)
Mae'r pecyn cyflogaeth yn cynnwys gwyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy'n
gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Sut i ymgeisio
-
Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Bersonél y Llyfrgell ar 01970 632530/1; drwy ffacs ar 01970 615709 neu Ebost: swyddi@llgc.org.uk
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Penglais
ABERYSTWYTH
Ceredigion SY23 3BU
-
Ffôn:01970632530
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: