Swyddog Datblygu’r Gweithlu Cymraeg ym Maes Gofal Plant
MIA001
Mae Menter Iaith Abertawe yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â’r gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, i fod yn Swyddog Datblygu’r Gweithlu Cymraeg (Maes Gofal Plant) i Fenter Iaith Abertawe. Mae cymhwyster Gofal Plant yn hanfodol a byddai profiad o weithio mewn Menter Iaith yn fanteisiol.
Bydd cytundeb swydd am flwyddyn gyda’r posibilrwydd o barhad yn ddibynnol ar nawdd.
Swydd rhan amser – 25 awr yr wythnos (oriau hyblyg).
Ariannir y swydd gan Gyngor Sir a Dinas Abertawe.
Dyddiad cau: 11/5/2012
Lleolir y swydd yn Nhŷ Tawe, Abertawe.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cyflawni'r profion "CRB" a'r geirda perthnasol.
Sut i ymgeisio
-
Am fwy o fanylion a sgwrs anffurfiol, e-bostiwch neu ffoniwch 01792 460906 er mwyn siarad gyda Rheolwr y Fenter – Elgan Davies-Jones.
-
Enw cyswllt:Menter Iaith Abertawe
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Menter Iaith Abertawe,
Ty Tawe,
9 Heol Christina,
Abertawe
SA1 4EW -
Ffôn:01792460906
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: