Uwch Swyddog Cyngor a Chefnogaeth (Trydydd Sector)
Corff annibynnol yw Comisiynydd y Gymraeg a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Ei brif nod yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg. Mae'r Comisiynydd yn estyn gwahoddiad am geisiadau ar gyfer y swydd isod.
Uwch Swyddog Cyngor a Chefnogaeth (Trydydd Sector)
PRIF DDYLETSWYDDAU
1. Rheoli gwaith y Comisiynydd o hybu a hyrwyddo'r Gymraeg yn y trydydd sector gan gyfarwyddo a meithrin gwaith y swyddogion perthnasol.
2. Llywio a chyfrannu at gyfeiriad strategol gwaith y Comisiynydd yn y meysydd hyn. Arwain ar y gwaith o symud gwaith trydydd sector Comisiynydd y Gymraeg o drefn Gynlluniau Iaith i Safonau Iaith Gymraeg gwirfoddol a statudol (o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011).
3. Arwain, ar y cyd â swyddogion perthnasol eraill, ar y gwaith o sicrhau bod sefydliadau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn Atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn dod o dan y drefn safonau.
4. Arwain, ar y cyd â swyddogion perthnasol eraill, ar y gwaith o sicrhau bod sefydliadau perthnasol eraill nad ydynt yn ddarostyngedig i Fesur y Gymraeg, yn ddarostyngedig o'u gwirfodd, i'r drefn safonau.
.
5. Llunio a threfnu lledaenu cyngor perthnasol i sefydliadau'r trydydd sector fedru hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.
6. Arwain ar weithredu argymhellion ymchwil a gwerthuso perthnasol i'r trydydd sector.
7. Cynnal perthynas adeiladol ac effeithiol â mudiadau ymbarél y trydydd sector yng Nghymru ac arwain y gwaith o gadw golwg dros gynyddu defnydd o'r Gymraeg gan fudiadau Trydydd Sector o bob math.
Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig ar gyfer y swydd.
Mae'r pecyn buddion yn cynnwys 31 diwrnod o wyliau blynyddol, trefn oriau hyblyg a chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Mae copi print bras o'r hysbyseb hon ac o fanylion y swydd ar gael trwy gysylltu â'r swyddfa.
Sut i ymgeisio
-
Dyddiad cau 12.00pm Dydd Mercher, 30 Mai 2012
Am ragor o wybodaeth am y swydd ac am ffurflen gais ewch i'r linc isod neu cysylltwch â'r swyddfa ar: -
Ffôn:08456033221
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: