Swyddog Hyfforddi Prosiect - Llanelli yn cwmpasu ardal y De-orllewin
Croeso i geisiadau llawn amser a rhan-amser. Cyfwerth ag amser llawn - 35 awr yr wythnos
Mae'r prosiect Cenedl Hyblyg ar waith yn ardaloedd cydgyfeirio Cymru, ac wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Ei nod yw helpu menywod cyflogedig i ddatblygu eu gyrfaoedd, a helpu busnesau i gydnabod manteision mabwysiadu mentrau gweithio hyblyg a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.
Eich tasg allweddol fel Swyddog Hyfforddi fydd cyflwyno hyfforddiant o'r radd flaenaf i'r rhai sy'n dilyn y prosiect. Byddwch yn eu helpu i ddysgu a darganfod, yn cyflwyno profiad dysgu rhagorol ac yn darparu cyngor, hyfforddiant ac arweiniad wedi'u teilwra gydol y cwrs.
Bydd gennych:
• Brofiad blaenorol o gyflwyno hyfforddiant ac asesu canlyniadau dysgu.
• Profiad blaenorol o ddefnyddio dulliau a thechnegau hyfforddiant a hwyluso amrywiol.
• Cymhwyster cydnabyddedig ym maes rheolaeth, o leiaf lefel 2 (arwain tîm), neu brofiad blaenorol fel arweinydd neu reolwr tîm.
• Profiad o nodi unrhyw anghenion dysgu a hyfforddi ychwanegol sydd gan ddysgwyr unigol, o ddarparu cymorth priodol neu eu cyfeirio at y cymorth hwnnw.
• Byddai'r gallu i ddarparu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol.
Er mwyn sicrhau eich bod yn hollol addas i'r swydd hon, darllenwch y disgrifiad swydd llawn a'r fanyleb person. Dim ond rhagflas o'r swydd sydd yma. Gofalwch fod eich profiad a'ch sgiliau yn cyfateb i'r meini prawf sydd wedi'u rhestru yn y fanyleb person.
Os ydych chi'n credu mewn cydraddoldeb rhywiol, hoffem glywed gennych waeth beth fo'ch rhyw.
Dyddiad cau: Dydd Llun 18 Mehefin 2012 am hanner dydd
Y cyfweliadau i'w cynnal yn Llanelli: Dydd Iau 5 Gorffennaf 2012