Darlithydd/Uwch Ddarlithydd mewn Theatr, Teledu a Pherfformio
1112-144
Sefydliad y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Y Diwydiannau Creadigol, y Cyfryngau, Perfformio, a'r Dyniaethau
Darlithydd/Uwch Ddarlithydd mewn Theatr, Teledu a Pherfformio
Y Diwydiannau Creadigol, y Cyfryngau, Perfformio, a'r Dyniaethau yw un o'r adrannau mwyaf ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae'r adran yn cynnwys ystod amrywiol o bynciau yn rhychwantu'r celfyddydau a thechnoleg, gyda thros 900 o fyfyrwyr yn astudio ar raglenni gradd, ymchwil uwchraddedig ac uwchraddedig a addysgir.
Mae cyfle wedi codi yn awr i unigolyn arbennig ymuno â'r maes pwnc Theatr, Teledu a Pherfformio. Mae hwn yn bwnc sy'n tyfu o fewn y Diwydiannau Creadigol yn y Brifysgol, yn canolbwyntio ar raglen radd israddedig hynod lwyddiannus. Mae hwn yn gwrs dwys, seiliedig-ar-sgiliau sy'n gyfuniad arloesol o ymarfer a theori, gan gwmpasu pynciau fel perfformio, llenyddiaeth ddramatig, theatr gymhwysol a dyfeisio a chyfarwyddo perfformiadau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain darpariaeth amryw o fodiwlau o fewn y radd Theatr, Teledu a Pherfformio yn amrywio o Lefel 4 i Lefel 6. Bydd y rhain yn cynnwys: Astudiaethau Symud; Sgiliau Academaidd, Personol a Phroffesiynol; Drama Brydeinig Ar Ôl y Rhyfel; Ysgrifennu Newydd, Cyfryngau Newydd, Theatr Newydd, Dyfodolion Newydd; a Drama Ewropeaidd yn yr 20fed Ganrif. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu proffil o ddarpariaeth dawns o fewn y rhaglen radd yn ogystal â darparu modiwlau seiliedig ar theori.
Yn ogystal â dyletswyddau addysgu, bydd deiliad y swydd yn arwain datblygiad proffil ymchwil Theatr, Teledu a Pherfformio. Bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu allbynnau a chyhoeddiadau ymchwil o ansawdd uchel, yn ogystal â datblygu cynigion am nawdd ymchwil.
Y nodweddion hanfodol ar gyfer y swydd hon yw profiad priodol a thystiolaeth o addysgu, cefnogi myfyrwyr a gweithgareddau ysgolheigaidd cysylltiedig, a phrofiad perthnasol o waith ym maes theatr, teledu a pherfformio gyda sgiliau penodol mewn theatr gorfforol a dawns. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu proffil darpariaeth dawns o fewn y radd yn ogystal â chyflenwi modiwlau seiliedig ar theori.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr feddu ar PhD a chofnod o allbynnau neu gyhoeddiadau ymchwil diweddar o ansawdd uchel. Mae profiad gwaith yn y maes pwnc a sgiliau amlwg mewn dawns a theatr gorfforol yn hanfodol.
Mae hanes gyrfa o nawdd ymchwil llwyddiannus; profiad o oruchwylio myfyrwyr doethuriaethol; cymhwyster addysgu; a'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg i gyd yn nodweddion hynod ddymunol.
Sut i ymgeisio
-
Am drafodaeth anffurfiol, dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â Dr. Stuart Cunningham, Arweinydd Academaidd ar gyfer y Diwydiannau Creadigol, y Cyfryngau, Perfformio, a'r Dyniaethau ar 01978293583 neu s.cunningham@glyndwr.ac.uk
Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein trwy wefan Prifysgol Glyndŵr. I wneud cais, dilynwch y ddolen isod:-
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau 26 Gorffennaf 2012 am 4pm. Cysylltir â'r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig. Derbynnir CVS ynghyd â ffurflenni cais wedi'u llenwi yn unig.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, cysylltwch â'r Adran AD ar 01978293141. -
Gwefan Gymraeg: