ASIANT CYSWLLT CWSMERIAID DAN HYFFORDDIANT
Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn darparu dŵr yfed ar gyfer poblogaeth o oddeutu 250,000 o bobl ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, Caer a'r ardaloedd o gwmpas. Mae'r Cwmni ar hyn o bryd yn chwilio am ymgeiswyr gyda chymwysterau addas ar gyfer y swydd canlynol:-
ASIANT CYSWLLT CWSMERIAID DAN HYFFORDDIANT
Bydd deiliad y swydd yn cyflawni amryw o swyddogaethau o fewn yr Adran Cyfrifon Cwsmeriaid a bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymdrin â chwsmeriaid sydd mewn dyled wyneb yn wyneb ac ar y ffôn, gan gynnig cyngor a chytuno ar delerau talu.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau bywyd i lwyddo yn y swydd hon. Mae'r gallu i uniaethu â chwsmeriaid ac i gydymdeimlo â hwy'n hanfodol ond rhaid i ymgeiswyr fod yn ddigon penderfynol i sicrhau canlyniad llwyddiannus. Mae sgiliau cyfathrebu a negodi rhagorol yn hanfodol.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â thrwydded yrru lân a bod wedi ennill TGAU gradd C neu gymhwyster cyfatebol mewn Saesneg a Mathemateg. Rhaid meddu hefyd ar sgiliau bysellfwrdd. Byddai'r gallu i siarad Cymraeg o fantais.
Swydd barhaol amser llawn yw hon sy'n golygu gweithio 40 awr bob wythnos.
Sut i ymgeisio
-
DYDDIAD CAU AR GYFER DERBYN CEISIADAU: Dydd Gwener 13 Gorffennaf 2012
I ymgeisio, anfonwch lythyr cais a braslun gyrfa cyfredol, os gwelwch yn dda, at:
-
Enw cyswllt:Y Rheolwr Adnoddau Dynol / The Human Resources Manager
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy,
Packsaddle,
Ffordd Wrecsam,
Rhostyllen,
Wrecsam
LL14 4EH.
-
Gwefan Gymraeg: