Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Gweinyddol profiadol i edrych ar ôl materion gweinyddol o fewn y Feithrinfa.
Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys rhoi gwybodaeth teulu ac arian ar y meddalwedd sydd gennym, ateb galwadau ffôn, ysgrifennu llythyron, rhyw faint o waith cyfieithu, ffeilio, rhoi gwybodaeth ar y wefan.
Bydd angen sgiliau cyfrifiadurol a chyfathrebu graenus, gan gynnwys defnydd o becynnau Microsoft Office, bas data a thaenlenni. Mae´r gallu i reoli llwyth gwaith a gweithredu´n llwyddiannus fel rhan o dîm yn angenrheidiol.
Bydd profiad o weithio yn y maes addysg neu ofal plant o fantais ond nid yw'n angenrheidiol
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus cyflawni'r geirda a phrofion "CRB" perthnasol.
Sut i ymgeisio
-
Ebostiwch eich CV neu cysylltwch â Meinir neu Nia ar 02920626720
-
Cyfeiriad y Cwmni:
24 Park Road
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7BQ -
Ffôn:02920626720 / 07799024348
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: