Cynorthwy-ydd Personol i'r Prif Weithredwr
Mae Llenyddiaeth Cymru'n chwilio am unigolyn trefnus a brwdfrydig sy'n meddu ar hunan-gymhelliad a blaengaredd, i weithio fel Cynorthwy-ydd Personol i'r Prif Weithredwr.
Prif ddyletswyddau'r swydd yw:
• Cynorthwyo'r Prif Weithredwr gydag amrywiaeth o ddyletswyddau mewn awyrgylch gelfyddydol brysur
• Dyletswyddau ymchwil, golygu a chyfieithu
• Rheoli dylunio a chynhyrchiad yr Adroddiad Blynyddol
• Rheoli dyddiadur y swyddfa ynghyd â dyddiadur y Prif Weithredwr
• Rheoli holl gyfrifoldebau adnoddau dynol
• Goruchwilio a hwyluso cyfarfodydd y Bwrdd/CCB/Pwyllgorau amryw
• Datblygu a diweddaru cynnwys y wefan
• Cynorthwyo gyda'r gwaith o weinyddu Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Mae'r cymwysterau canlynol yn anghenrheidiol:
• Safon ardderchog yn y Gymraeg a Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
• Gwybodaeth a phrofiad o weithio gyda phecynnau cyfrifiadurol e.e. Word, Excel
• Sgiliau trefnu ardderchog
• Agwedd weithgar, hyblyg
Byddai'r sgiliau yma yn ddymunol:
• Gwybodaeth o'r sector gelfyddydol yng Nghymru
Noddir Llenyddiaeth Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru
a Llywodraeth Cynulliad Cymru
Sut i ymgeisio
-
Dyddiad cau: Dydd Mawrth 28 Awst 2012
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 3 Medi 2012Dylai ymgeiswyr anfon CV dwyieithog, llythyr cais ac enw dau ganolwr erbyn dydd Mawrth 28 Awst 2012 at:
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Llenyddiaeth Cymru,
Prif Weithredwr: Lleucu Siencyn,
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FQ -
Ffôn:02920472266
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: