PEIRIANNYDD CYNLLUNIO
PE01
Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn cyflenwi dŵr yfed i oddeutu 250,000 o bobl ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, Caer a'r ardaloedd o gwmpas. Mae'r Cwmni bellach yn chwilio am unigolion sydd â'r cymwysterau priodol ar gyfer y swydd canlynol:-
PEIRIANNYDD CYNLLUNIO
YR ADRAN CYNLLUNIO A RHEOLEIDDIO
(Cyf: PE01)
Prif nod y swydd hon yw cynnal a datblygu ein hastudiaethau cyflenwad a galw. Yn y swydd ddiddorol a heriol hon byddwch yn cyfrannu tuag at ddatblygu strategaeth y Cwmni i'r dyfodol ac yn cydweithio'n agos â'r holl adrannau eraill i sicrhau gweithredu'r strategaeth honno'n llwyddiannus. Byddwch yn ymuno â Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ar adeg gyffrous, wrth i ni gyrraedd y pwynt canol yn y gylchred Cynllunio Rheoli Asedau.
Bydd ymgeiswyr yn meddu ar radd a bydd o fantais os bydd ganddynt brofiad blaenorol o reoli cyflenwad a galw gan gynnwys mewn cysylltiad â defnyddio dŵr yn effeithlon a gollyngiadau. Byddai dealltwriaeth o weithio mewn diwydiant sydd wedi'i reoleiddio'n ddefnyddiol. Rhaid bod gan ymgeiswyr y gallu i ysgrifennu adroddiadau cryno.
Mae'r swydd yn un barhaol a llawn-amser, sef 37 awr yr wythnos. Mae disgrifiad swydd llawn ar gael o wneud cais.
Sut i ymgeisio
-
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 13 Awst 2012.
Anfonwch lythyr cais ynghyd â braslun gyrfa cyfredol, os gwelwch yn dda, at y cyfeiriad ebost neu post isod gan nodi'r cyfeirnod priodol yn nheitl y neges.
-
Enw cyswllt:Y Rheolwr Adnoddau Dynol / The Human Resources Manager
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy,
Packsaddle,
Ffordd Wrecsam,
Rhostyllen,
Wrecsam
LL14 4EH.
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: