RHEOLWR PROSIECTAU
PM03
Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn cyflenwi dŵr yfed i oddeutu 250,000 o bobl ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, Caer a'r ardaloedd o gwmpas. Mae'r Cwmni bellach yn chwilio am unigolion sydd â'r cymwysterau priodol ar gyfer y swydd canlynol:
RHEOLWR PROSIECTAU
YR ADRAN GWASANAETHAU
(Cyf: PM03)
Bydd deiliad y swydd yn gweithio o fewn yr Adran Gwasanaethau ac yn atebol i'r Uwch Reolwr Prosiectau, gan fod yn gyfrifol am reoli prosiectau seilwaith yn effeithiol.
Rhoir y flaenoriaeth i ymgeiswyr gyda Thystygrif Genedlaethol Uwch (neu gymhwyster cyfwerth) sydd â phrofiad blaenorol o weithio ar brosiectau peirianyddol yn y diwydiant dŵr. Mae'r gallu i weithio o fewn amserlen heriol yn ogystal â meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn allweddol bwysig er mwyn llwyddo yn y swydd heriol a chyfrifol hon. Mae meddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth addas mewn Excel a Word hefyd yn ofynnol ac mae gwybodaeth o safon uchel ynghylch Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur yn hanfodol.
Mae'r swydd yn un barhaol a llawnamser, sef 45 awr yr wythnos. Mae disgrifiad swydd llawn ar gael o wneud cais.
Sut i ymgeisio
-
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 13 Awst 2012.
Anfonwch lythyr cais ynghyd â braslun gyrfa cyfredol, os gwelwch yn dda, at y cyfeiriad ebost neu post isod gan nodi'r cyfeirnod priodol yn nheitl y neges.
-
Enw cyswllt:Y Rheolwr Adnoddau Dynol / The Human Resources Manager
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy,
Packsaddle,
Ffordd Wrecsam,
Rhostyllen,
Wrecsam
LL14 4EH.
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: