SWYDDOG DYSGU ANFFURFIOL
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae'n un o chwech o ganolfannau cenedlaethol ac yn gyfrifol am holl ddarpariaeth y maes Cymraeg i Oedolion yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae'r Ganolfan yn lle bywiog i weithio ynddi gan ei bod yn arwain yn genedlaethol ar y maes hyfforddiant i diwtoriaid, ac yn arloesi gyda dysgu dwys, e-ddysgu a dysgu anffurfiol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
SWYDDOG DYSGU ANFFURFIOL
Mae'r Ganolfan yn chwilio am Swyddog Dysgu Anffurfiol llawn-amser i arwain ar raglen sy'n cynnig cyfleoedd diddorol, amrywiol a chynhwysol i ddysgwyr ymarfer a defnyddio'u Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. Prif swyddogaethau'r gwaith fydd datblygu strategaeth dysgu anffurfiol a chyhoeddi cylchgrawn yn rheolaidd sy'n llawn gweithgareddau. Mae'n bwysig dod i adnabod y dysgwyr yn wirioneddol dda er mwyn sicrhau darpariaeth sy'n addas ar eu cyfer. Prif nod y gwaith ydy cynorthwyo a chefnogi dysgwyr i ‘groesi'r bont' h.y. dod yn rhugl a defnyddio'u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Bydd dysgu Cymraeg i Oedolion hefyd yn rhan o'r swydd yn ogystal â chyfleoedd i wneud gwaith marchnata. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, bod yn gymwys i ddysgu ac yn barod i wneud oriau hyblyg iawn gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau.
Disgwylir i'r person weithio'n drefnus ac i amserlenni caeth, ac mae angen sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu o'r radd flaenaf. Bydd angen sgiliau TG ardderchog gan gynnwys defnydd o gyfryngau marchnata cymdeithasol.
Swydd cyfnod 2 flynedd yw hon.
Sut i ymgeisio
-
Am fanylion pellach ac i ymgeisio am y swydd, ewch i wefan Prifysgol Caerdydd:
-
Gwefan Gymraeg: