Cyhoeddwr Dwyieithog

Cyflogwr:
Swyddfa Archwilio Cymru
Cyflog:
Band cyflog 1: £15,783 - £20,250. Bydd y cyflog yn dechrau ar waelod y band.
Lleoliad:
Caerdydd
Termau/Dyddiau am Swyddi Dros Dro/Tymor Penodol:
9 mis
Dyddiad Cau:
24/08/2012
Termau'r Swydd:
Dros Dro
Oriau:
Llawn amser
Cyfeirnod Swydd:

PCOM05

Swyddfa Archwilio Cymru
Disgrifiad:

Mae Swyddfa Archwilio Cymru am benodi Cyhoeddwr Dwyieithog dros dro (9 mis) i gefnogi tîm Cyfathrebu mewnol prysur yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

• cynorthwyo'r Cydlynydd Cyhoeddiadau wrth gynhyrchu cyhoeddiadau Swyddfa Archwilio Cymru mewn ffordd amserol;
• cynghori a chynorthwyo staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyhoeddi Swyddfa Archwilio Cymru, yn enwedig y defnydd o arddull mewnol Swyddfa Archwilio Cymru;
• cyfieithu dogfennau bach a chynorthwyo Swyddog yr Iaith Gymraeg wrth gynghori staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyfieithu;
• cynorthwyo'r tîm Cyfathrebu ehangach, yn ôl y galw, megis gyda digwyddiadau a chyfathrebu allanol.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn cwrdd â'r meini prawf isod:

• Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol
• Ardystiad proffesiynol fel cyfieithydd Cymraeg yn ddymunol neu barodrwydd i weithio tuag at hynny
• Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ddymunol
• Wedi cyflawni hyfforddiant y Gymdeithas i Olygyddion a Darllenwyr Proflenni (SfEP) neu'n barod i ddysgu
• Gwybodaeth ymarferol ardderchog o Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint, Access ac Outlook)
• Yn gyfarwydd ag Adobe InDesign (neu feddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith tebyg) neu'n barod i ddysgu amdano
• Yn gyfarwydd â systemau rheoli cynnwys neu barodrwydd i ddysgu
• Mae profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a/neu gyhoeddi yn hanfodol
• Mae profiad o brawfddarllen yn Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol
• Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog o fantais

Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r swydd, cliciwch yma: http://www.wao.gov.uk/cymraeg/aboutus/1174.asp
Am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Michael Jones ar 02920320581

Sut i ymgeisio

  • I wneud cais, anfonwch yr holl ddogfennau canlynol (ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru) Gyrfaoedd (linc isod)

    • Ffurflen Gais
    • Ffurflen Monitro Cyfleodd Cyfartal

    I'r cyfeiriad post neu ebost isod

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 24 Awst 2012. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr.


    Bydd Canolfan Asesu ar gyfer ymgeiswyr sydd yn llwyddiannus yn y cyfnod sifft cychwynnol yn cael ei gynnal yn y swyddfa yng Nghaerdydd ar 12 Medi 2012.


  • Cyfeiriad y Cwmni:

    Swyddfa Archwilio Cymru
    Yr Adran Adnoddau Dynol
    24 Heol y Gadeirlan
    Caerdydd
    CF11 9LJ

  • e-bost:
  • Gwefan Gymraeg: