Cymhorthydd Cyllid a Phersonél

Cyflogwr:
Menter Iaith Conwy
Cyflog:
£14,733 - £15,725 y flwyddyn pro rata
Lleoliad:
Llanrwst
Termau/Dyddiau am Swyddi Dros Dro/Term sefydlog:
Unarddeg awr yr wythnos
Dyddiad Cau:
cyn gynted â phosib
07/02/2012
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Rhan amser
Menter Iaith Conwy
Disgrifiad:

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau - Penodol i'r Swydd

1. Ymgymryd â thasgau gweinyddol ariannol penodol megis: cyfrif ac
hawliadau arian mân, prosesu anfonebau a llunio archebion gan gydymffurfio â rheoliadau ariannol y Fenter.

2. Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol megis didoli'r post, ffeilio, llungopïo, trin ymholiadau ffôn ac ymwelwyr personol, ac ymdrin yn gyflym â negeseuon e-bost a ffacs.

3. Materion Personél; Cynorthwyo'r Cyfarwyddwr i gynnal cofnodion gwyliau blynyddol, absenoldeb arbennig, salwch, hawliadau teithio a chynhaliaeth. Datblygu systemau newydd i gofnodi materion Personél.

4. Cyfarfodydd Cyfarwyddwyr; cynorthwyo i baratoi yr agenda, cymryd a dosbarthu cofnodion etc.

5. Trefnu Yswiriant y Fenter yn cael ei ddiweddaru ac fod y taliadau yn mynd yn brydlon.

6. Cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Datblygu efo gwaith Iechyd a Diogelwch megis archebu nwyddau angenrheidiol.

7. Cynorthwyo'r Swyddog Cyllid i ddarparu rheolaeth cyllidol effeithiol Menter Iaith Conwy ac eu is-gwmnïau.

8. Cyfrannu at rediad effeithlon y swyddfa/Fenter gan gynorthwyo cydweithwyr ble fo angen a chyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill a ellir eu dyrannu'n rhesymol.


Dyletswyddau a Chyfrifoldebau - Cyffredinol

1. Bod yn gyfrifol am sefydlu perthnasau gwaith da yn fewnol ac yn allanol.

2. Cydymffurfio efo Polisïau a Gweithdrefnau'r Fenter a rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr am unrhyw feysydd nad ydynt yn cael eu trin yn ddigonol.

3. Bod yn gyfrifol am weithio mewn modd sy'n ymlynu wrth arferion Iechyd a Diogelwch yn eich gwaith dyddiol, gan rannu cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch yn y Fenter yn gyffredinol.

Cefnogwyd y Swydd yma gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

 

Sut i ymgeisio