Athrawon x 3

Cyflogwr:
Cyngor Prydeinig
Cyflog:
Cyflog misol o £750, ynghyd â thaith awyren, yswiriant iechyd, a llety.
Lleoliad:
Patagonia
Termau/Dyddiau am Swyddi Dros Dro/Term sefydlog:
Mawrth tan Rhagfyr 2011
Dyddiad Cau:
17/10/2010
Termau'r Swydd:
Term sefydlog
Oriau:
Llawn amser
Cyngor Prydeinig
Disgrifiad:

Cynllun yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa

A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg yn y Wladfa?

Beth am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?

Rydym yn chwilio am athrawon cymwys a phrofiadol i ddysgu plant (cynradd/ arddegau) ac oedolion (pob safon) ar gyfer Mawrth - Rhagfyr 2011

Cyflog misol o £750, ynghyd â thaith awyren, yswiriant iechyd, a llety.

Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw
10 Medi 2010.

Mae'r Cyngor Prydeinig yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae'n awyddus i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas y DU ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Rydym yn sicrhau y caiff ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol eu cyfweld. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn darllen testun safonol nodi ym mha fformat yr hoffent gael pecyn cais: print mawr, Braille, disg cyfrifiadur neu dâp sain.

Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig dros gydberthnasau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Cymru a Lloegr) SC037733 (Yr Alban).

 

Sut i ymgeisio