Ysgrifenydd(es) Cyfreithiol (Dim asiantaethau)
A ydych chi yn ysgrifenydd(es) cyfreithiol sy'n edrych am sialens ac am yrfa gyffrous gyda ffyrm gyfreithiol ddeinamig?
Mae Capital Law LLP yn edrych i recriwtio ysgrifenydd(es) llawn amser i fod yn rhan o dîm Cyflogaeth y ffyrm. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hwn.
‘Rydym yn edrych am unigolyn sydd â phrofiad o fod yn ysgrifenydd(es) cyfreithiol ac yn meddu ar ddealltwriaeth estynedig o raglenni Microsoft Office sy'n cynnwys Excel a Powerpoint. Mae gallu gweinyddol arbennig, gallu trefniadaethol a gallu cyfathrebol i gyd yn rinweddau sy'n allweddol i'r swydd. ‘Rydym hefyd yn edrych am unigolyn sy'n rhoi sylw arbennig i gywirdeb.
Fe ddylir bod yn broffesiynol drwy gydol yr amser, ac yn fodlon i fod yn ran blaengar o dîm eang.
Yr oriau gwaith fydd 9yb - 5.30yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener gyda'r gallu i fod yn hyblyg.
Fe fydd pecyn cystadleuol yn cael ei gynnig i'r ymgeisydd addas.
Sut i ymgeisio
-
Er mwyn ymgeisio am y swydd, ebostiwch eich CV yngyd â llythyr drwy ebost i recruitment@capitallaw.co.uk
Neu, gyrrwch eich llythyr a'ch CV i
-
Enw cyswllt:Lauren Peach
-
Cyfeiriad y Cwmni:
Capital Law LLP
1 Caspian Point,
Caspian Way,
Caerdydd, CF10 4DQ -
Ffôn:029 2047 4407
-
e-bost:
-
Gwefan Gymraeg: