Derbynnydd Drws y Llwyfan Dros Dro
Y Rôl
Prif amcan y swydd hon yw darparu croeso o'r radd flaenaf mewn amgylchedd diogel i ymwelwyr, staff a pherfformwyr.
Ymhlith cyfrifoldebau'r swydd mae:
• Cwrdd â'r holl ymwelwyr, staff a pherfformwyr a'u croesawu;
• Sicrhau y gweithredir systemau llofnodi i mewn a diogelwch;
• Dosbarthu pasiau, allweddi, ac ati fel y bo'n briodol;
• Cynorthwyo gyda rhaglennu allweddi, cardiau llithro a phasiau electronig;
• Ymdrin ag ymholiadau personol a dros y ffôn;
• Dosbarthu negeseuon, post mewnol ac allanol ar gyfer y Ganolfan, sefydliadau preswyl, cyflenwyr rheoli cyfleusterau a masnachfreinwyr
• Derbyn nwyddau a threfnu casglu post, parseli a phecynnau eraill;
• Cynorthwyo gyda gweithdrefnau brys;
• Darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i bob ymwelydd, aelod o staff a pherfformiwr.
Sgiliau / Medrau Hanfodol
• Y gallu i drin yn gyflym, yn effeithlon, yn synhwyrol ac yn gwrtais ag ymholiadau;
• Sgiliau rheoli amser a threfnu da;
• Dull ffôn proffesiynol ynghyd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu gwych;
• Cywirdeb da a sylw i fanylder;
• Ymagwedd gadarnhaol a chyfeillgar gyda'r hyder i ymdrin â phobl ar bob lefel;
• Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ac yn unol â therfynau amser yn ogystal â mewn tîm;
• Y gallu i sefydlu hygrededd yn gyflym gyda doethineb a hyder.
Profiad Hanfodol
• Profiad o weithio mewn swydd sy'n wynebu cwsmeriaid mewnol ac allanol;
• Dealltwriaeth o weithdrefnau brys;
• Meddu ar sgiliau cyfrifiadurol gyda gwybodaeth dda o raglenni Microsoft h.y. Word, Excel.
Dymunol
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol iawn;
• Profiad o weithio mewn derbynfa neu amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid debyg.
Sut i ymgeisio
-
Dilynwch y linc isod er mwyn dadlwytho ffurflen gais:
-
Gwefan Gymraeg: