Swyddog Hyfforddi a Datblygu

Cyflogwr:
Cymorth Cynllunio Cymru
Cyflog:
£25,000 y flwyddyn, a chyfraniad pensiwn ar ôl chwe mis
Lleoliad:
Caerdydd (neu gartref gan ymweld â'r swyddfa yng Nghaerdydd yn wythnosol)
Termau/Dyddiau am Swyddi Dros Dro/Tymor Penodol:
cytundeb penodol o chwe mis, ond bwriadwn wneud y swydd yn un barhaol yn ddibynnol ar gyllid
Dyddiad Cau:
30/09/2010
Termau'r Swydd:
Parhaol
Oriau:
Llawn amser
Cymorth Cynllunio Cymru
Disgrifiad:

Cymorth Cynllunio Cymru yw'r elusen gofrestredig sy'n gweithio i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r system gynllunio defnydd tir yng Nghymru, a'u cyfraniad at y system hynny.

Rydym yn chwilio am unigolyn hunan-ysgogol a threfnus sy'n gallu gweithio gydag eraill i gychwyn a datblygu prosiectau hyfforddi.

Byddwch yn cydlynu a datblygu rhaglenni hyfforddi Cymorth Cynllunio Cymru ar gyfer grwpiau difreintiedig, cynrychiolwyr cymunedol a phroffesiynolwyr cynllunio.

Cynigir y swydd i gychwyn ar gytundeb penodol o chwe mis, ond bwriadwn wneud y swydd yn un barhaol yn ddibynnol ar gyllid. Ystyrir ceisiadau gan bobl â diddordeb mewn rhannu'r swydd.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn ymdrechu i fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal.

 

Sut i ymgeisio