Newyddion 

Jane Davidson a Tracey Williams Cyfarwyddwraig Safle Swyddi ym mharti lansiad Safle Swyddi ar Fawrth y 1af ym mwyty Indica ym Mhontyrpidd.

Fe wnaeth Jane Davidson siarad yn y Gymraeg a chymeradwyo'r ffaith fod Safle Swyddi yn annog cyflogwyr a siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio´r iaith yn y gwaith. 

Hefyd, ar y noson fe gawsom ocsiwn elusennol, a drefnwyd gan Safle Swyddi. 
Fe wnaeth Dawn Williams, Cadeirydd Menter Iaith ac Alun Cox, Trysorydd Menter Iaith (yn y llun isod) cyflwyno'r ocsiwn a chodwyd £439 ar gyfer Menter Iaith.

Cyfrannwyd yr eitemau ar gyfer yr ocsiwn gan y canlynol:

Codwyd £60 am eiriau ysgrifenedig i´r gân “Y Cwm” gan Huw Chiswell (yn yr ocsiwn ar y dde)

Codwyd £45 am 2 docyn Donny Osmond yn Nghastell Cyfarthfa a £35 am 2 docyn ar gyfer Full Ponty (Lost Prophets) gan y Ffatri Bop.

Codwyd £25 am Ddefaid gan World of Groggs.

Codwyd £10 am oriawr o C & K Evans Jewellers 8 Taff Street, Pontypridd.

Codwyd £12 am gadwen gan NULA 80 High Street, Pontypridd

Codwyd £25 am docyn dillad isaf gan Bella´s Lingerie

Codwyd £20 am ddrych a £22 an Dirlun gan The Gallery, Pontypridd

Codwyd £50 am docyn noson i ddau mewn Spa gan Beautylishus, Pontyclun

Codwyd £75 am bryd o fwyd i ddau yn Nhy Bwyta Indica, Pontypridd.

Codwyd £30 am arddangosfa Ddaffodil gan Gwilym Florists, Pontypridd

Codwyd £30 am tegan meddal - Draig gan Y Siop Gymraeg, Stâd Ddiwydiannol Trefforest

Manylion cyswllt Semaphore Design - John Marshall, Cyfarwyddwr gwerthiant 02920 224111 Darparwr arddangosfa Safle Swyddi.

Diolch o galon i bawb.