Safle Swyddi
GWEINYDDYDD
Cyfle i ymuno â thîm Nerys Evans yng Nghaerfyrddin yn ystod blwyddyn yr etholiad.
Derbynnydd Drws y Llwyfan Dros Dro
Prif amcan y swydd hon yw darparu croeso o'r radd flaenaf mewn amgylchedd diogel i ymwelwyr, staff a pherfformwyr.
Ymhlith cyfrifoldebau'r swydd mae:
• Cwrdd â'r holl ymwelwyr, staff a pherfformwyr a'u croesawu;• Sicrhau y gweithredir systemau llofnodi i mewn a diogelwch;• Dosbarthu pasiau, allweddi, ac ati fel y bo'n briodol;• Cynorthwyo gyda rhaglennu allweddi, cardiau llithro a phasiau electronig;• Ymdrin ag ymholiadau personol a dros y ffôn;• Dosbarthu negeseuon, post mewnol ac allanol ar gyfer y Ganolfan, sefydliadau preswyl, cyflenwyr rheoli cyfleusterau a masnachfreinwyr• Derbyn nwyddau a threfnu casglu post, parseli a phecynnau eraill;• Cynorthwyo gyda gweithdrefnau brys;• Darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i bob ymwelydd, aelod o staff a pherfformiwr.
Sgiliau / Medrau Hanfodol
• Y gallu i drin yn gyflym, yn effeithlon, yn synhwyrol ac yn gwrtais ag ymholiadau;• Sgiliau rheoli amser a threfnu da;• Dull ffôn proffesiynol ynghyd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu gwych;• Cywirdeb da a sylw i fanylder;• Ymagwedd gadarnhaol a chyfeillgar gyda'r hyder i ymdrin â phobl ar bob lefel;• Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ac yn unol â therfynau amser yn ogystal â mewn tîm;• Y gallu i sefydlu hygrededd yn gyflym gyda doethineb a hyder.Profiad Hanfodol• Profiad o weithio mewn swydd sy'n wynebu cwsmeriaid mewnol ac allanol;• Dealltwriaeth o weithdrefnau brys;• Meddu ar sgiliau cyfrifiadurol gyda gwybodaeth dda o raglenni Microsoft h.y. Word, Excel.Dymunol• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol iawn;• Profiad o weithio mewn derbynfa neu amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid debyg.
Swyddog Gweithredol (Cymru)
Rhaid dangos sgiliau gweinyddol cryf iawn, sgiliau cyfathrebu a datblygu busnes, y gallu i weithio ar liwt eich hunan.
Swyddog Golygyddol (Cyfnod Mamolaeth)
Uwch Ymgynghorydd Byw'n Annibynnol (Rhan Amser 25 awr)
Rydym yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni meini prawf y swydd hanfodol yn cael cynnig cyfweliad.
Mae Sefydliad y Rowan yn gorff a sefydlwyd o bobl anabl gyda dros 30 mlynedd o brofiad. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar www.therowan.org.
Uwch Ymgynghorydd Byw'n Annibynnol (Rhan Amser 25 awr)Graddfa 6 SCP 26-28 £ 22,221 - £ 23,708 y flwyddyn pro rata + cynllun talebau gofal plant.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig, hunan-gymhelliant sydd yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl anabl yn cael cyfle cyfartal a dewis yn y ffordd y maent yn byw eu bywydau. Bydd y rhai a benodir yn cael profiad o ddydd i ddydd o weithio mewn rôl gefnogol ac yn gallu rhoi cyngor i ddefnyddwyr gwasanaeth ar reoli eu Taliadau Uniongyrchol. Byddant hefyd a sgiliau da mewn cyfathrebu a TG, a profiad o Gronfa Ddata, gan gynnwys Mynediad, yn ofynnol. Mae'n hanfodol i'r swydd i siarad yn rhugl yn Cymraeg a Saesneg. I fod yn seiliedig yn ein Swyddfa Caerfyrddin neu i weithio o gartref o fewn ardal Sir Benfro/ Sir Gaerfyrddin / Ceredigion.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 30ain Gorffennaf am 5 y.h.
Ysgrifenydd(es) Cyfreithiol (Dim asiantaethau)
Mae Capital Law LLP yn edrych i recriwtio ysgrifenydd(es) llawn amser i fod yn rhan o dîm Cyflogaeth y ffyrm. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hwn.
‘Rydym yn edrych am unigolyn sydd â phrofiad o fod yn ysgrifenydd(es) cyfreithiol ac yn meddu ar ddealltwriaeth estynedig o raglenni Microsoft Office sy'n cynnwys Excel a Powerpoint. Mae gallu gweinyddol arbennig, gallu trefniadaethol a gallu cyfathrebol i gyd yn rinweddau sy'n allweddol i'r swydd. ‘Rydym hefyd yn edrych am unigolyn sy'n rhoi sylw arbennig i gywirdeb.
Fe ddylir bod yn broffesiynol drwy gydol yr amser, ac yn fodlon i fod yn ran blaengar o dîm eang.
Yr oriau gwaith fydd 9yb - 5.30yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener gyda'r gallu i fod yn hyblyg.
Gweithwyr Maes x 2
Prif amcanion y cynllun fydd creu;
Cyfleoedd i gymdeithasu trwy'r GymraegCyfleoedd i unigolion o'r Wladfa astudio a gweithio yng NghymruCyfleoedd i unigolion o Gymru (Ieuenctid gan amlaf )i wneud gwaith Gwirfoddol yn y WladfaCydweithio efo'r rhaglen dysgu Cymraeg
Mae'r cynllun am gyflogi berson i weithio yn Y Wladfa am gyfnod i drafod. Hoffwn clywed gennych os ydach yn meddwl eich bod yn ddigon deinamig ac yn meddu ar y rhinweddau i sicrhau parhad i lwyddiant y cynllun.
Am swydd ddisgrifiad cewch i: www.menterpatagonia.org
Cynllun ar y cyd rhwng y sefydliadau canlynol:
CYMEITHAS CYMRU - ARIANNIN
Athrawon x 3
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg yn y Wladfa?
Beth am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?
Rydym yn chwilio am athrawon cymwys a phrofiadol i ddysgu plant (cynradd/ arddegau) ac oedolion (pob safon) ar gyfer Mawrth - Rhagfyr 2011
Cyflog misol o £750, ynghyd â thaith awyren, yswiriant iechyd, a llety.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw10 Medi 2010.
Mae'r Cyngor Prydeinig yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae'n awyddus i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas y DU ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Rydym yn sicrhau y caiff ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol eu cyfweld. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn darllen testun safonol nodi ym mha fformat yr hoffent gael pecyn cais: print mawr, Braille, disg cyfrifiadur neu dâp sain.
Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig dros gydberthnasau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Cymru a Lloegr) SC037733 (Yr Alban).
Swyddog Y Dysgwyr
Bydd gofyn gweithio gyda'r nos a, weithiau, dros benwythnosau. Mae'r swydd yn cychwyn ym mis Medi 2010, neu cyn gynted â phosib, ar gytundeb o ddwy flynedd hyd at 31 Awst 2012. Disgwylir i'r Swyddog weithio o swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd ac/neu yn Yr Wyddgrug.
Diben y swyddBydd y Swyddog yn gwasanaethu'r Eisteddfod Genedlaethol, gan gefnogi'r gweithgareddau i ddysgwyr y Gymraeg cyn, yn ystod ac ar ôl yr Eisteddfod. Bydd y Swyddog hefyd yn trefnu rhaglen o weithgareddau dysgu anffurfiol trwy'r flwyddyn, yn ogystal â hyrwyddo cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn ardal yr Eisteddfod, a cheisio denu dysgwyr newydd.
Yn atebol i: Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
Prif Gyfrifoldebau Dylech wneud pob ymdrech i sicrhau bod eich cais yn dangos yn glir eich gallu a'ch profiad yn y meysydd isod:
1. Trefnu gweithgareddau dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â swyddogion ac Is-Bwyllgor Dysgwyr yr Eisteddfod, gan gynnwys:a. Trefnu Arddangosfa a rhaglen weithgareddau Maes D (Pabell y Dysgwyr ar Faes yr Eisteddfod);b. Cynorthwyo gyda threfniadau cystadlaethau Adran y Dysgwyr, gan gynnwys cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn;c. Cynorthwyo'r Is-bwyllgor Dysgwyr gyda threfniadau gweithgareddau a drefnir ganddynt cyn ac ar ôl yr Eisteddfod;d. Marchnata'r Eisteddfod ymhlith dysgwyr y Gymraeg;
2. Cyd-weithio â Chanolfannau Cymraeg i Oedolion yn ardal yr Eisteddfod dros y tair blynedd nesaf i ddarparu rhaglen o gyrsiau blasu a gweithgareddau dysgu anffurfiol drwy gydol y flwyddyn er mwyn denu rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg ac i ymweld â'r Eisteddfod.
3. Gwasanaethu Panel Dysgwyr Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol
CyflogPenodir ar raddfa NJC 23 i 27 (£19,998 i £22,730)
Lleoliad y swyddLleolir y swydd yn swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd ac/neu yn Yr Wyddgrug.
Manyleb BersonolHanfodol• gradd gychwynnol a/neu brofiad sylweddol o waith perthnasol• y gallu i ymdrîn â phobl eraill• sgiliau cyfathrebu ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar• y gallu i siarad ac ysgrifennu'n gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg• y gallu i drefnu eich gwaith eich hunain• parodrwydd i weithio gyda'r nos a/neu ar benwythnosau• y gallu i drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau• gallu defnyddio pecynnau TG, gan gynnwys e-bost a phrosesydd geiriau• diddordeb cyffredinol yn hyrwyddo'r diwylliant Cymreig a helpu dysgwyr a siaradwyr rhugl i'w werthfawrogi• trwydded yrru lawn a defnydd o gerbyd
Manteisiol• profiad o weithio ym maes Cymraeg i Oedolion, neu brofiad o ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgol;• profiad o hyrwyddo a marchnata;• profiad o reoli prosiectau.
Cymhorthydd Cyllid a Phersonél
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau - Penodol i'r Swydd1. Ymgymryd â thasgau gweinyddol ariannol penodol megis: cyfrif ac hawliadau arian mân, prosesu anfonebau a llunio archebion gan gydymffurfio â rheoliadau ariannol y Fenter.
2. Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol megis didoli'r post, ffeilio, llungopïo, trin ymholiadau ffôn ac ymwelwyr personol, ac ymdrin yn gyflym â negeseuon e-bost a ffacs.
3. Materion Personél; Cynorthwyo'r Cyfarwyddwr i gynnal cofnodion gwyliau blynyddol, absenoldeb arbennig, salwch, hawliadau teithio a chynhaliaeth. Datblygu systemau newydd i gofnodi materion Personél.
4. Cyfarfodydd Cyfarwyddwyr; cynorthwyo i baratoi yr agenda, cymryd a dosbarthu cofnodion etc.
5. Trefnu Yswiriant y Fenter yn cael ei ddiweddaru ac fod y taliadau yn mynd yn brydlon.
6. Cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Datblygu efo gwaith Iechyd a Diogelwch megis archebu nwyddau angenrheidiol.
7. Cynorthwyo'r Swyddog Cyllid i ddarparu rheolaeth cyllidol effeithiol Menter Iaith Conwy ac eu is-gwmnïau.
8. Cyfrannu at rediad effeithlon y swyddfa/Fenter gan gynorthwyo cydweithwyr ble fo angen a chyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill a ellir eu dyrannu'n rhesymol.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau - Cyffredinol
1. Bod yn gyfrifol am sefydlu perthnasau gwaith da yn fewnol ac yn allanol.
2. Cydymffurfio efo Polisïau a Gweithdrefnau'r Fenter a rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr am unrhyw feysydd nad ydynt yn cael eu trin yn ddigonol.
3. Bod yn gyfrifol am weithio mewn modd sy'n ymlynu wrth arferion Iechyd a Diogelwch yn eich gwaith dyddiol, gan rannu cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch yn y Fenter yn gyffredinol.Cefnogwyd y Swydd yma gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
Nyrs Meithrin
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Nyrs Meithrin i ymuno â Meithrinfa brysur ym Mae Caerdydd i ddechrau'n syth.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf NVQ lefel 2 neu gywerth ac yn rhugl yn yr iaith Gymraeg.
Gallem gynnig cyfraddau cyflog cystadleuol iawn yn ogystal â chyfleon i hyfforddi ymhellach.
Cyfieithydd o dan Hyfforddiant, Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol, Swyddog Maes Cynorthwyol
FJF433 Cyfieithydd o dan Hyfforddiant (6mis efo'r posibiliad o barhad)FJF434 Cyfieithydd o dan Hyfforddiant (6mis efo'r posibiliad o barhad)FJF435 Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol (Cyfnod o 6mis)FJF436 Swydog Maes Cynorthwyol (Cyfnod o 6 mis)
Swyddi Cronfa Swyddi'r Dyfodol. Cynllun yw hwn ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed sydd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am 39 wythnos neu fwy.
Cynorthwyydd Meithrin
Cymwysterau: NVQ Gofal Plant Lefel 3 neu cywerth
I ddechrau: cyn gynted â phosib
Dyddiad Cau: Ymgeisiwch cyn gynted â phosib o.g.y.dd